Gyda rygbi ar dwf yng ngogledd Cymru mae’r Prif Hyfforddwr, Robin McBryde, wedi clodfori’r holl gyfleoedd sydd ar gael yno.

Mae’n dweud bod “cymaint o opsiynau” bellach, ac mae wedi cyfaddef ei fod yn teimlo rhywfaint o “genfigen” tuag at y genhedlaeth bresennol o chwaraewyr yng ngogledd Cymru.

Mae’n rhestru llwyddiannau’r rhanbarth gan gynnwys datblygiad tîm Rygbi Gogledd Cymru 1404 (RGC) a statws stadiwm Eirias ym Mae Colwyn fel cartref tîm dan 20 Cymru.

“Mae cymaint o opsiynau ar gael yng ngogledd Cymru nawr o gymharu â phan ddechreuais i fy ngyrfa,” meddai Robin McBryde.

“Mae’n anodd peidio bod ychydig yn genfigennus o’r holl gyfleoedd sydd gyda chwaraewyr o ogledd Cymru yn awr, i chwarae a chynrychioli eu rhanbarth. Os ydych yn chwaraewr ifanc sydd am wella, rydych yn siŵr o eisiau chwarae i RGC.”

“Hyder a chyngor”

Wrth edrych yn ôl ar ei yrfa mae hefyd wedi talu teyrnged i hyfforddwr clwb wnaeth ei annog i anelu’n uchel yn ystod cyfnod lle nad oedd llawer o gyfleoedd i chwaraewyr o ogledd Cymru.

Bu cyn-hyfforddwr yr Wyddgrug a thîm Ieuenctid Cymru, Denley Isaac, yn fentor ac yn ddylanwad mawr ar Robin McBryde pan symudodd i’r Wyddgrug.

“Mae arna’ i bopeth i Denley,” meddai Robin McBryde. “O’n i erioed wedi credu y gallwn fod wedi cyflawni yr hyn yr wyf wedi ei gyflawni.

“Ond mi roddodd Denley yr hyder a’r cyngor i mi allu dechrau credu y gallwn deithio i dde Cymru a rhoi cynnig go iawn ar rygbi.”