Alun Wyn Jones
Alun Wyn Jones fydd capten y Llewod ar gyfer y gêm nesaf ar eu taith yn Seland Newydd.

Y Cymry eraill yn nhîm y Llewod i herio’r Crusaders fore Sadwrn yw George North, Jonathan Davies, Liam Williams a Taulupe Faletau, gyda Rhys Webb a Ken Owens ar y fainc.

Ni fydd y blaenasgellwr Sam Warburton – capten y Llewod ar gyfer y daith – yn chwarae o gwbl gan ei fod wedi anafu ei bigwrn.

Ar ôl colli’r gêm yn erbyn y Blues fore Mercher mae’r hyfforddwr, Warren Gatland, wedi mynnu bod perfformiadau’r Llewod yn gorfod gwella.

Does dim un tîm wedi llwyddo i guro’r Crusaders hyd yma y tymor hwn.