Alun Wyn Jones (Llun: Chris Jobling/CCA2.0)
Fe fydd Alun Wyn Jones yn ôl yn nhîm y Gweilch heno wrth iddyn nhw herio Munster yn rownd gyn-derfynol y PRO12 yn Limerick (6.15pm).

Mae capten Cymru wedi gwella o anaf i’w ysgwydd, a dydy e ddim wedi chwarae ers i Gymru golli yn erbyn Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ym mis Mawrth.

Roedd amheuon am ffitrwydd Dan Biggar, ond mae yntau hefyd wedi gwella o anaf, i’w ffêr.

Mae tîm Munster yn cynnwys y Llewod Conor Murray, CJ Stander a Peter O’Mahony.

Dim ond tri chwaraewr oedd yn y tîm a gurodd Connacht bythefnos yn ôl sy’n cadw eu llefydd – Billy Holland, Keith Earls ac Andrew Conway.

Peter O’Mahony fydd y capten heno, ac fe fydd Donnacha Ryan a Francis Saili yn chwarae ar gae Thomond Park am y tro olaf.

Bydd Donnacha Ryan yn ymuno â Racing 92 y tymor nesaf, tra bydd Francis Saili yn gadael y clwb ar ddiwedd y tymor.

Ond mae Ian Keatley a Jaco Taute wedi llofnodi cytundebau newydd.

Munster: Simon Zebo; Andrew Conway, Francis Saili, Rory Scannell, Keith Earls; Tyler Bleyendaal, Conor Murray; Dave Kilcoyne, Niall Scannell, John Ryan, Donnacha Ryan, Billy Holland, Peter O’Mahony (capten), Tommy O’Donnell, CJ Stander.

Eilyddion: Rhys Marshall, James Cronin, Stephen Archer, Jean Deysel, Jack O’Donoghue, Duncan Williams, Ian Keatley, Jaco Taute.

Y Gweilch: Dan Evans; Keelan Giles, Kieron Fonotia, Ashley Beck, Tom Habberfield; Dan Biggar, Rhys Webb; Nicky Smith, Scott Baldwin, Rhodri Jones, Bradley Davies, Alun Wyn Jones (capten), Sam Underhill, Justin Tipuric, James King.

Eilyddion: Scott Otten, Paul James, Dan Suter, Lloyd Ashley, Olly Cracknell, Brendon Leornard, Sam Davies, Josh Matavesi.