Mae Jonathan Davies yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at her “gyffrous” wrth i’r Scarlets baratoi ar gyfer gêm gynderfynol y Guinness PRO12 yn erbyn Leinster heno.

Roedd y canolwr yn aelod o dîm y Scarlets y tro diwethaf iddyn nhw gyrraedd rownd gynderfynol y gynghrair, ac mae’n ffyddiog bod y garfan yn fwy parod ar gyfer y gêm yn Nulyn.

“Mae’n hynod o gyffrous,” meddai. “Bydd llawer o hyder gyda Leinster ond dw i’n credu mai’r hyn yr ydym ni yn medru gwneud yw canolbwyntio ar ein hunain.

“Rydym wedi dangos yn ystod yr wythnosau diwethaf ein bod mewn cyflwr da, ry’ ni’n chwarae gyda hyder. Ond, bydd yn rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni ddim yn huanfodlon.”

Mae Leinster â record dda o chwarae gemau cartref a heb golli gartref mewn gêm gynderfynol.

Leinster v Scarlets yn fyw ar Scrum V ar BBC2 heno gyda’r gic gyntaf am 7.45.