Gleision 30–24 Zebre

Llwyddodd y Gleision i guro Zebre yn y Guinness Pro12 nos Wener er gwaethaf adfywiad hwyr gan yr Eidalwyr ar Barc yr Arfau.

Roedd gan y tîm cartref ugain pwynt o fantais ar yr egwyl ond Zebre a gafodd y gorau o’r ail gyfnod gan gau’r bwlch i chwe phwynt yn y diwedd.

Ciciodd Gareth Anscombe y Gleision chwe phwynt ar y blaen cyn croesi am gais cyntaf y gêm hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf yn dilyn dwylo da Nick Williams ac Ellis Jenkins.

Ychwanegodd Aled Summerhill yr ail gais ddau funud yn ddiweddarach, yr asgellwr ifanc yn gorffen yn daclus ar y chwith. Llwyddodd Anscombe gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb hefyd, 23-3 y sgôr wrth droi.

Cafodd blaenwyr Zebre gyfnod da ar ddechrau’r ail hanner a gyda Tau Filise yn y gell gosb i’r Gleision fe ddyfarnwyd cais cosb i’r Eidalwyr.

Cafwyd ymateb da gan bedwar dyn ar ddeg y Gleision serch hynny wrth i Tomos Williams sgorio fwy neu lai yn syth o’r ail ddechrau ar ôl taro cic Carlo Canna i lawr.

Yn ôl y daeth Zebre eto gyda chais Maxime Mbanda yn rhoi llygedyn o obaith iddynt ar yr awr.

Cafodd dau chwaraewr eu hanfon oddi ar y cae yn fuan wedyn. Cafodd Sion Bennett gerdyn melyn i’r Gleision am daclo heb ei freichiau ond cafodd Dario Cristolini gerdyn coch am ddial gyda dwrn!

Roedd y tîm cartref yn llygadu pwynt bonws yn y chwarter awr olaf felly ond yr ymwelwyr o’r Eidal a gafodd y gair olaf wrth i gais hwyr Dries van Schalkwyk sicrhau pwynt bonws iddynt hwythau am orffen o fewn saith pwynt, 30-24 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Gleision yn seithfed yn nhabl y Pro12 gydag un gêm ar ôl.

.

Gleision

Ceisiau: Gareth Anscombe 21’, Aled Summerhill 23’, Tomos Williams 57’

Trosiadau: Gareth Anscombe 22’, 24’, 58’

Ciciau Cosb: Gareth Anscombe 11’, 16’, 30’

Cardiau Melyn: Nick Williams 26’, Tau Filise 53’, Sion Bennett 65’

.

Zebre

Ceisiau: Cais Cosb 55’, Maxime Mbanda 60’, Dries van Schalkwyk 78’

Trosiadau: Carlo Canna 56’, 61’, Guglielmo Palazzani 79’

Cic Gosb: Carlo Canna 26’

Cerdyn Coch: Dario Cristolini 65’