Caeredin 24–20 Dreigiau
Cipiodd Caeredin fuddugoliaeth ddramatig gyda thri chais hwyr wrth i’r Dreigiau ymweld â Myreside yn y Guinness Pro12 nos Wener.
Roedd hi’n ymddangos fod ceisiau Pat Howard a Carl Meyer ynghyd â chicio cywir Angus O’Brien yn mynd i sicrhau buddugoliaeth brin i’r rhanbarth o Gymru, ond gwnaethant lanast o bethau yn y munudau olaf.
Er i Jason Tovey gicio Caeredin ar y blaen yn gynnar, roedd yr ymwelwyr o Gymru saith pwynt ar y blaen ar yr egwyl wedi cais Howard a throsiad a chic gosb gan O’Brien.
Roedd y fantais wedi ei hymestyn i 17 pwynt erbyn deg munud o ddiwedd y gêm diolch i gais Meyer a dwy gic arall gan O’Brien.
Ond wrth i’r Dreigiau golli eu disgyblaeth yn y munudau olaf fe fanteisiodd yr Albanwyr.
Anfonwyd Charlie Davies ac yna Nic Cudd i’r gell gosb ac fe groesodd Blair Kinghorn, Damien Hoyland a Grant Gilchrist am geisiau hwyr i sicrhau buddugoliaeth ddramatig i’r tîm cartref.
Byddai buddugoliaeth wedi codi’r Dreigiau dros Gaeredin yn nhabl y Pro12 ond maent yn aros yn ddegfed gydag un gêm ar ôl.
.
Caeredin
Ceisiau: Blair Kinghorn 72’ Damien Hoyland 77’, Grant Gilchrist 80’
Trosiadau: Jason Tovey 73’, 78’, 80’
Cic Gosb: Jason Tovey 8’
Cerdyn Melyn: Allan Dell 64’
.
Dreigiau
Ceisiau: Pat Howard 30’, Carl Meyer 47’
Trosiadau: Angus O’Brien 31’, 49’
Ciciau Cosb: Angus O’Brien 39’, 69’
Cardiau Melyn: Charlie Davies 71’, Nic Cudd 80’