Shane Williams (Llun: PA)
Roedd cyn-asgellwr Cymru, Shane Williams yn allweddol wrth i Glwb Rygbi’r Aman godi’r Bowlen Genedlaethol yn Stadiwm Principality y prynhawn yma.

Sgoriodd e gais a chreu dau arall, wrth i seren y gêm, Joel Foster sgorio 20 o bwyntiau gyda’i droed.

Daeth cais cyntaf Shane Williams ar ôl naw munud – ei gyntaf yn y stadiwm ers mis Rhagfyr 2011, pan chwaraeodd dros Gymru am y tro olaf yn erbyn Awstralia.

Tarodd Caerffili yn ôl a mynd ar y blaen cyn i ymosod yr Aman brofi’n rhy gryf.

Roedd Shane Williams yn allweddol yn ail gais ei dîm, wrth iddo ddarparu’r bas olaf i’w frawd-yng-nghyfraith Gavin Lewis cyn iddo groesi am y cais.

Daeth cais hwyr i’r Aman cyn yr hanner, wrth i’r clo Shaun Cadell groesi yn y gornel.

Cael a chael oedd hi drwy gydol yr ail hanner, ond fe arhosodd yr Aman yn gadarn i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Bydd angen iddyn nhw ennill yr wythnos nesaf er mwyn cipio tlws y gynghrair a sicrhau’r dwbl.