Gweilch 18–20 Leinster

Rhoddwyd cnoc arall i obeithion y Gweilch o gyrraedd rownd gynderfynol y Guinness Pro12 wrth iddynt golli yn erbyn Leinster ar y Liberty brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd gôl adlam Ross Byrne y Gwyddelod ar y blaen ym munud olaf yr wyth deg cyn i Dan Biggar fethu cyfle i’w chipio hi i’r Gweilch gyda chic olaf y gêm.

Dechreuodd y Gweilch yn dda ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen wedi pum munud pan groesodd Sam Davies yn y gornel dde wedi symudiad tîm da.

Methodd Biggar y trosiad ond llwyddodd gyda chic gosb ychydig funudau’n ddiweddarach i ymestyn mantais ei dîm i wyth pwynt.

Roedd Leinster yn ôl yn y gêm chwarter awr cyn yr egwyl diolch i gais Sean Cronin, y bachwr yn rhedeg fel asgellwr wrth groesi o dan y pyst.

Ychwanegodd Isa Nacewa’r trosiad cyn rhoi’r Gwyddelod ar y blaen am y tro cyntaf gyda chic gosb bum munud cyn yr egwyl.

Biggar a’r Gweilch a gafodd y gair olaf cyn yr egwyl serch hynny wrth i’r maswr cartref gicio’i dîm bwynt ar y blaen unwaith eto.

Roedd Leinster yn gryfach ar ddechrau’r ail hanner ac roeddynt ar y blaen o fewn dim wrth i Dan Leavy droelli drosodd yn dilyn rhediad da arall gan Cronin.

Bu rhaid i’r Gweilch dreulio tipyn o amser yn amddiffyn wedi hynny ond roeddynt yn ôl ar y blaen toc wedi’r awr diolch i gais Justin Tipuric, y blaenasgellwr yn tirio wedi i Rhys Webb ennill tir da gyda rhediad cryf.

Roedd hi’n ymddangos fod hynny’n mynd i fod yn ddigon i’r tîm cartref ond sleifiodd Leinster yn ôl ar y blaen gyda gôl adlam Byrne funud o’r diwedd.

Llwyddodd y Gweilch i adennill y meddiant o’r ail ddechrau gan ennill cic gosb yn dilyn tacl uchel gan Byrne. Cyfle i Biggar ei hennill hi felly gyda chic olaf y gêm ond anelodd hi heibio’r postyn.

Bu rhaid i’r Gweilch fodloni ar bwynt bonws yn unig felly, digon i’w cadw yn drydydd yn nhabl y Pro12 am y tro ond mae eu gobeithion o gêm gartref yn y rownd gynderfynol fwy neu lai ar ben.

.

Gweilch

Ceisiau: Sam Davies 5’, Justin Tipuric 62’

Trosiad: Sam Davies 62’

Ciciau Cosb: Dan Biggar 9’, 40’

.

Leinster

Ceisiau: Sean Cronin 24’, Dan Leavy 47’

Trosiadau: Isa Nacewa 25’, 48’

Cic Gosb: Isa Nacewa 35’

Gôl Adlam: Ross Byrne 80’