Rob Evans, prop Cymru (llun: Nick Potts/PA)
Mae prop Cymru, Rob Evans, wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r Scarlets.

Mae’r cytundeb yn golygu y bydd Rob Evans, 24 oed,  yn aros gyda’r rhanbarth am y dyfodol rhagweladwy.

“Rwy’n hynod falch o arwyddo’r cytundeb newydd gyda’r Scarlets,” meddai Rob Evans.

“Mae’r bechgyn wedi gwneud yn dda tra ein bod ni i ffwrdd yn ein cadw ym mhedwar uchaf y PRO12 ac mae’n grêt i fod yn ôl ym Mharc y Scarlets ac i wneud popeth rwy’n gallu i’n helpu i gyrraedd y gôl yna,” meddai.

“Mae chwarae i’r Scarlets yn fraint fawr imi, mae teimlad da ymysg y grŵp …ac roeddwn i eisiau bod yn rhan o hynny dros y blynyddoedd nesaf.”