Mae bob gêm rhwng nawr a diwedd y tymor yn cyfri, yn ôl prif hyfforddwr tîm rygbi’r Gweilch, sy’n herio Stade Francais yn rownd wyth olaf Cwpan Her Ewrop yn Stadiwm Principality heno (5.45pm).

Mae’r gêm wedi cael ei symud i’r brifddinas gan fod tîm pêl-droed Abertawe’n herio Middlesbrough yn Stadiwm Liberty ac mae hawliau darlledu’n golygu nad oedd modd darganfod dyddiad arall i gynnal y gêm yn Abertawe.

Er nad oes modd rheoli’r canlyniad, yn ôl Steve Tandy, mae e’n dweud mai sicrhau’r perfformiad gorau posib fydd y flaenoriaeth.

“Ry’n ni wedi cyrraedd adeg yna’r tymor a’r gystadleuaeth lle mae pob gêm yn cyfri, gan ddechrau ddydd Sul.

“Rygbi cystadleuol yw hyn ac mae’r hyn sydd wedi digwydd o’r blaen yn amherthnasol, y perfformiad nos Sul sy’n bwysig.

“Allwch chi ddim sicrhau canlyniadau ond yr hyn y gallwn ni ei reoli yw ein perfformiad ni.”

Undod ar y cae

Mae materion oddi ar y cae yn Ffrainc wedi hawlio’r sylw dros yr wythnosau diwethaf, ar ôl i Stade Francais a Racing 92 dynnu allan o drafodaethau i uno’r clybiau.

Ond mae buddugoliaeth Stade Francais yn erbyn Toulon “wedi ateb cwestiynau ac amheuon” am feddylfryd y tîm o Ffrainc dros yr wythnosau diwethaf, meddai Steve Tandy.

“Mae ganddyn nhw ddoniau ar draws y cae, pac hynod gorfforol a dyfnder ym mhob safle felly allwch chi ddim ceisio ynysu bygythiadau unigol. Rhaid i chi ganolbwyntio ar eich gwaith eich hun.

“Gobeithio y bydd tipyn o gefnogaeth yng Nghaerdydd mewn cyfleuster o’r radd flaenaf i wylio’r hyn ddylai fod yn gêm wych a gobeithio y gall fod yn ddiwrnod i’w gofio i’r Gweilch.”

Tîm y Gweilch: S Davies, K Giles, A Beck, J Matavesi, D Evans, D Biggar, R Webb (capten); N Smith, S Baldwin, B Mujati, L Ashley, R Thornton, S Underhill, J Tipuric, D Baker

Eilyddion: S Parry, P James, M Fia, T Ardron, J King, O Cracknell, K Fonotia, T Habberfield

Tîm Stade Francais: H Bonneval, J Arias, G Doumayrou, J Danty, J Raisuqe, J Plisson, W Genia; Z Zhvania, L Sempéré, R Slimani, H Pyle, P Gabrillagues, A Burban, S Nicolas, S Parisse (capten).

Eilyddion: L Panis, A De Malmanche, P Alo Emile, P Papé, R Lakafia, J Dupuy, M Steyn, H Meyer Bosman