Gavin Henson (Llun: Clwb Rygbi Caerfaddon)
Mae Gavin Henson wedi dweud bod ganddo fe “lawer i’w gynnig o hyd”, ar ôl iddo fe arwyddo i’r Dreigiau.

Bydd cyn-faswr Cymru’n symud i’r rhanbarth o Fryste yn yr haf ar gytundeb dwy flynedd.

Ar ôl i’r newyddion gael ei gadarnhau brynhawn ddoe, mae Gavin Henso wedi dweud na allai “ddweud na” wrth y Dreigiau.

“Dw i wir wedi mwynhau fy amser yma ym Mryste ond pan ddaeth y cyfle i ymuno â’r Dreigiau a dychwelyd i Gymru, allwn i ddim dweud na.”

“Mae gen i lawer i’w gynnig o hyd a dw i’n gwybod beth mae Kingsley [Jones] am ei gael gen i.

“Dw i’n edrych ymlaen yn arbennig at herio chwaraewyr presennol Cymru, a gobeithio y bydda i’n sbardun ac yn fentor i’r doniau rhyfeddol yng ngharfan y Dreigiau.”

‘Profiad hollbwysig’

Yn ôl prif hyfforddwr y Dreigiau, Kingsley Jones, mae sicrhau gwasanaeth Gavin Henson yn “bwysig dros ben” a’r “hyn sydd ei angen i fynd gyda’r garfan bresennol sydd gyda ni”.

“Dw i wrth fy modd fod Gavin yn gweld y potensial o fewn y rhanbarth a’i fod e wedi cyffroi wrth feddwl am helpu’r criw hwn o olwyr gyda’u datblygiad.

“Ar ôl gweithio gyda Gavin o’r blaen, dw i’n llwyr ymwybodol y bydd e’n dod â phrofiad hollbwysig i’r cae ac wrth ymarfer.”

Dywedodd prif weithredwr y Dreigiau, Stuart Davies fod Gavin Henson yn “un o chwaraewyr gorau ei genhedlaeth”, a’i fod yn gobeithio bod y newyddion yn “hwb i’r cefnogwyr”.