Cafodd casglwr peli rygbi gerdyn melyn gan y dyfarnwr Nigel Owens neithiwr yn ystod y gêm rhwng Leinster a’r Scarlets.

Ychydig dros bum munud cyn diwedd y gêm yn y PRO12, roedd eilydd o faswr y Scarlets, Aled Thomas yn aros am y bêl oedd wedi croesi’r ystlys.

Taflodd y bachgen y bêl yn ôl i gyfeiriad y maswr, ond fe darodd y dyfarnwr Nigel Owens yn ei gefn.

Gyda gwên fawr ar ei wyneb, manteisiodd y dyfarnwr o Fynyddcerrig ar gyfle i gael ychydig o hwyl, gan gerdded draw i’r bachgen a dangos cerdyn melyn iddo fe – cyn siglo’i law!

Enillodd Leinster y gêm o 45-9, ac mae Nigel Owens wedi cynnig ei grys i’r bachgen.