Gleision 13–23 Munster
Sgoriodd Munster ddeg pwynt yn y pum munud olaf wrth iddynt drechu’r Gleision ar Barc yr Arfau yn y Guinness Pro12 nos Sadwrn.
Roedd y Cymry ar y blaen am ran helaeth o’r gêm ond yn ôl y daeth y Gwyddelod i’w hennill hi gyda gôl adlam a throsgais yn y munudau olaf.
Cafodd y ddau dîm eu cyfnodau yn y deugain munud agoriadol ond roedd gan y Gleision fantais fain wrth droi diolch i ddwy gic gosb Steve Shingler yn erbyn un Rory Scannell, 6-3 y sgôr.
Cafwyd dipyn mwy o gyffro ar ddechrau’r ail hanner wedi i Willis Halaholo gael ei anfon i’r gell gosb am dacl uchel ar Andrew Conway.
Tra’r oedd canolwr y Gleision oddi ar y cae fe groesodd y ddau dîm am gais.
Y Gleision a gafodd y cyntaf wedi i Aled Summerhill ryng-gipio pas Scannell a rhedeg yr holl ffordd o’r llinell hanner, 13-3 y sgôr.
Roedd y Gwyddelod yn ôl o fewn tri phwynt cyn i’r Gleision ddychwelyd at bymtheg dyn wedi i Francis Saili ochr-gamu’n rhwydd heibio Matthew Morgan i groesi o dan y pyst.
Ciciodd Scannell ei dîm yn gyfartal gyda chwarter awr o’r gêm yn weddill ac roedd y Gwyddelod yn rhoi’r Gleision o dan gryn dipyn o bwysau.
Fe ddaliodd y Cymry eu gafael tan bum munud o’r diwedd ond wedi i’w flaenwyr osod sylfaen da fe drosodd Scannell gôl adlam ddigon blêr i roi ei dîm ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm.
Roedd angen cais ar y Gleision felly ond Munster a gafodd un wrth i Conor Oliver dorri’n rhydd i groesi o dan y pyst.
Mae’r canlyniad yn codi Munster i’r ail safle yn nhabl y Pro12 ond mae’r Gleision yn aros yn wythfed.
.
Gleision
Cais: Willis Halaholo 47’
Trosiad: Steve Shingler 48’
Ciciau Cosb: Steve Shingler 21’, 33’
Cerdyn Melyn: Willis Halaholo 45’
.
Munster
Ceisiau: Francis Saili 51’, Conor Oliver 76’
Trosiadau: Rory Scannell 52’, 77’
Ciciau Cosb: Rory Scannell 25’, 66’
Gôl Adlam: Rory Scannell 75’