Gweilch 26–15 Glasgow
Cododd y Gweilch i’r ail safle yn nhabl y Guinness Pro12 gyda buddugoliaeth bwynt bonws yn erbyn Glasgow ar y Liberty brynhawn Sul.
Sgoriodd y tîm cartref ddau gais mewn dau funud hanner ffordd trwy’r ail hanner wrth drechu’r Albanwyr yn Abertawe.
Daeth cais cyntaf y gêm wedi deg munud wrth i Keelan Giles groesi wedi gwaith gwych gan Dafydd Howells ar yr asgell chwith.
Roedd ail gais i’r tîm cartref ychydig wedi hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf wrth i Josh Matavesi rwygo trwy ganol amddiffyn Glasgow i groesi o dan y pyst. Trosodd Luke Price y ddau gais ac roedd gan y Gweilch bedwar pwynt ar ddeg o fantais.
Cafodd yr Albanwyr gyfnod gwell wedi hynny ac roeddynt yn ôl o fewn sgôr ar yr egwyl diolch i gais Corey Flynn, y bachwr yn hyrddio drosodd wedi cyfnod da o bwyso gan y blaenwyr, 14-7 y sgôr wrth droi.
Ciciodd Brandon Thompson gic gosb i roi’r ymwelwyr o fewn pedwar pwynt yn gynnar yn yr ail hanner cyn i gais Peter Murchie eu rhoi ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm gydag ychydig llai na hanner awr i fynd.
Newidiodd pethau yn sydyn serch hynny wrth i’r Gweilch groesi am ddau gais mewn dau funud toc cyn yr awr.
Hyrddiodd Tyler Ardron drosodd o dan y pyst wedi gwaith da gan y pac am y cyntaf, cyn i Kieron Fonotia gasglu cic Price i gwblhau gwrthymosodiad da o’u hanner eu hunain ar gyfer yr ail.
Sicrhaodd hynny bwynt bonws o leiaf i’r Cymry a’u rhoi un pwynt ar ddeg ar y blaen gyda chwarter y gêm yn weddill.
Bu rhaid iddynt wneud tipyn o amddiffyn yn yr ugain munud olaf ond fe wnaethant hynny’n ddigon trefnus a dal eu gafael i sicrhau’r fuddugoliaeth.
Mae’r canlyniad yn codi tîm Steve Tandy dros Munster i’r ail safle yn nhabl y Pro12 gyda chwe gêm yn weddill.
.
Gweilch
Ceisiau: Keelan Giles 10’, Josh Matavesi 22’, Tyler Ardron 55’, Kieron Fonotia 57’
Trosiadau: Luke Price 11’, 23’, 56’
.
Glasgow
Ceisiau: Corey Flynn 25’, Peter Murchie 52’
Trosiad: Brandon Thompson 26’
Cic Gosb: Brandon Thompson 47’