Mae cyn-gapten tîm rygbi Cymru, Lloyd Williams wedi marw’n 83 oed.
Roedd yn un o saith brawd a chwaraeodd dros Gaerdydd – ymhlith ei frodyr roedd un o fawrion Cymru, Bleddyn Williams.
Enillodd Lloyd Williams 13 o gapiau rhwng 1957-62, ac fe chwaraeodd e mewn 310 o gemau dros Gaerdydd, gan ddod yn gapten y clwb rhwng 1960 a 1962.
Ar ôl i’w yrfa ddod i ben, fe dreuliodd nifer o flynyddoedd yn aelod o bwyllgor y clwb, ac mae e’n un o aelodau Oriel Enwogion y clwb erbyn hyn.
Mewn datganiad, dywedodd Clwb Rygbi Caerdydd eu bod nhw’n “drist” o glywed am ei farwolaeth.