Rob Howley (Llun: CCA2.0)
Doedd perfformiad tîm rygbi Cymru ddim yn ddigon da ym Murrayfield, yn ôl yr is-hyfforddwr Rob Howley.

Sicrhaodd yr Alban fuddugoliaeth gyntaf dros Gymru ers degawd wrth iddyn nhw ennill o 29-13 ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, gan gadw eu gobeithion o sicrhau’r Goron Driphlyg yn fyw.

Croesodd yr asgellwyr Tommy Seymour a Tim Visser am geisiau yn yr ail hanner, wrth i’r maswr Finn Russell sgorio 19 o bwyntiau ar ei ben ei hun. Roedd Cymru ar y blaen o saith pwynt tua diwedd yr hanner cyntaf, fodd bynnag, ar ôl cais gan Liam Williams, ac wyth pwynt oddi ar droed Leigh Halfpenny.

Ond wnaethon nhw ddim sgorio’r un pwynt yn yr ail hanner, tra bod yr Alban wedi sgorio 20.

‘Ddim yn ddigon da’

Ar ddiwedd y gêm, dywedodd y prif hyfforddwr dros dro, Rob Howley: “Ry’n ni’n siomedig dros ben. Doedd ein perfformiad yn yr ail hanner jyst ddim yn ddigon da.

“Gwnaeth yr Alban ein gwasgu ni. Chawson ni fawr o feddiant a phan gawson ni beth, roedd yr Alban yn effeithiol dros ben yn ardal y dacl.

“Wnaethon ni fethu â chymryd nifer o gyfleoedd ac roedden nhw’n fwy clinigol o lawer wrth ein lein ni, er i ni ildio ceisiau meddal drwy adael iddyn nhw fynd ar y tu allan i ni.

“Cawson ni ein troi drosodd yn rhy hawdd ac fe gollon ni yn yr awyr hefyd, felly mae tipyn i ni ei ystyried.”