Dreigiau 22–54 Leinster
Cafodd y Dreigiau gweir go iawn wrth i Leinster ymweld â Rodney Parade yn y Guinness Pro12 nos Wener.
Roedd y Gwyddelod wedi sicrhau’r pwynt bonws cyn yr awr cyn croesi am bedwar cais arall yn y chwarter olaf.
Cafodd y Dreigiau ddechrau da gyda thri phwynt o droed Dorian Jones ond buan iawn y dechreuodd Leinster reoli.
Roedd y Gwyddelod ar y blaen wedi deg munud diolch i gais yr wythwr, Jack Conan, a throsiad Ross Byrne.
Cyfunodd y ddau i ymestyn mantais yr ymwelwyr wedi hynny, Conan yn croesi unwaith eto a Byrne yn ychwanegu’r ddau bwynt, 3-14 y sgôr wrth droi.
Sgoriodd Jamison Gibson-Park drydydd cais Leinster ym munud cyntaf yr ail hanner cyn i Adam Hughes groesi am un i’r Dreigiau.
Sicrhaodd Richard Strauss y pwynt bonws gyda phedwerydd y Gwyddelod wedi hynny cyn i James Tracy, Hayden Triggs a Luke McGrath (2) droi’r fuddugoliaeth yn gweir gyda phedwar cais arall yn y chwarter awr olaf.
Roedd cais yr un i Matthew Screech a Sarel Pretorius hefyd ond wnaeth hynny fawr mwy na rhoi gwedd fymryn yn fwy parchus ar y sgôr terfynol, 22-54.
Mae’r canlyniad yn gadael y Dreigiau yn ddegfed yn nhabl y Pro12.
.
Dreigiau
Ceisiau: Adam Hughes 45’, Matthew Screech 66’, Sarel Pretorius 76’
Trosiad: Dorian Jones 46’
Cic Gosb: Dorian Jones 6’
.
Leinster
Ceisiau: Jack Conan 10’, 23’, Jamison Gibson-Park 41’, Richardt Strauss 53’, James Tracy 62’, Hayden Triggs 67’, Luke McGrath 70’, 74’
Trosiadau: Ross Byrne 11’, 24’, 42’, 54’, 68’, 71’, 74’