Fe allai tîm rygbi’r Scarlets fod wedi sgorio rhagor o bwyntiau yn erbyn Zebre yn y PRO12 neithiwr, yn ôl prif hyfforddwr y rhanbarth, Wayne Pivac.

Daeth ei sylwadau ar ôl gweld ei dîm yn trechu’r Eidalwyr o 42-7 a sgorio chwe chais ym Mharc y Scarlets.

Sgoriodd y Cymry dri chais yn yr hanner cyntaf – un i Aaron Shingler, un i Tom Williams a’r llall i Steff Evans, yr asgellwr addawol sydd wedi’i ryddhau o garfan Cymru.

Oni bai am drafod gwael, fe allai’r Scarlets fod wedi sicrhau’r pwynt bonws yn yr hanner cyntaf.

Ond fe ddaeth tri chais eto yn yr ail hanner, wrth i Tom Price a Will Boyde groesi’r naill ochr i gais cosb.

‘Doedd hi ddim yn bert’

Er i’r Scarlets roi cweir i’r Eidalwyr, roedd Wayne Pivac yn teimlo bod rhagor o geisiau i ddod.

“Doedd hi ddim yn bert ar adegau,” meddai. “Fe gawson ni lawer o gyfleoedd yn yr hanner cyntaf, roedd yr holl ystadegau o’n plaid ni ac fe ddylen ni fod wedi sgorio rhagor o bwyntiau, ond nid felly y bu.”

Dywedodd fod rhai chwaraewyr yn “or-awyddus ar adegau”, ac fe dynnodd sylw at golli’r bêl drosodd a thro yn ardal y dacl.

“Roedden ni’n hapus i gael y pwynt bonws yn gynnar yn yr ail hanner. Fe gawson ni bum pwynt, ac roedd hi ar ben wedyn yn yr ystyr hynny.”

Munster

Munster fydd gwrthwynebwyr nesa’r Scarlets, ac mae ganddyn nhw gêm bwysig i ddod yn erbyn Leinster wrth iddyn nhw ddringo’r tabl mewn ymgais i sicrhau lle ymhlith y pedwar uchaf.

Dywedodd Wayne Pivac: “Mae Munster yn dîm o safon, dydyn nhw ddim ar frig y tabl am ddim rheswm.

“Maen nhw’n dîm amddiffynnol gwych. Nhw yw’r unig dîm sydd wedi’n curo ni gartref y tymor hwn ac mae hynny’n adrodd cyfrolau.

“Ry’n ni’n gwybod y bydd hi’n gêm anodd ac yn gam mawr i fyny o’r hyn wnaethon ni wynebu yma [yn erbyn Zebre].”