Alun Wyn Jones yn dychwelyd i Rufain, dinas ei gap cyntaf yn 2009
Pan fydd Alun Wyn Jones yn arwain tim Cymru i’r maes yn Rhufan ddydd Sul, fe fydd yn dychwelyd i’r ddinas lle’r enillodd ef ei hun ei gap cyntaf yn 2009.

Fe fydd y cyn-gapten, Sam Warburton, yn dechrau fel blaenasgellwr ochr dywyll, a Justin Tipuric yn aros fel blaenasgellwr ochr agored.

Y pâr o’r Scarlets Scott Williams a Jonathan Davies fydd yng nghanol y cae gyda’r chwaraewr 86 cap Jamie Roberts ar y fainc.

Dim ond un newid fydd i’r cefnwyr wnaeth chwarae yn erbyn De Affrica ddiwethaf, gyda Rhys Webb yn dychwelyd ar ôl cyfnod o anafiadau i chwarae fel mewnwr.

Bydd pedwar chwaraewr sydd heb chwarae yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad o’r blaen yn ymuno â’r tîm sef: Nicky Smith, Cory Hill, James King a Sam Davies.

Oherwydd anafiadau ni fydd Taulupe Faletau na Luke Charteris yn medru chwarae’r gêm yn Stadio Olimpico.

“Tîm profiadol”

“Mae’n bleser enwi’r tîm profiadol yma ar gyfer ein gêm yn erbyn yr Eidal ac i groesawi bum chwaraewr yn ôl na chafodd y cyfle i chwarae yn erbyn De Affrica dros yr Hydref,” meddai Prif Hyfforddwr Cymru, Rob Howley.

“Rydyn ni’n teimlo mai hwn yw’r tîm gorau rydyn ni wedi ei ddewis ar gyfer dechrau’r gystadleuaeth,  rydyn ni eisiau dechrau da ac mi fydd profiad yn allweddol er mwyn gwireddu hynna.”

Tîm Cymru

Leigh Halfpenny; George North; Jonathan Davies; Scott Williams; Liam Williams; Dan Biggar; Rhys Webb; Nicky Smith; Ken Owens; Samson Lee; Jake Ball; Alun Wyn Jones (Capten); Sam Warburton; Justin Tipuric; Ross Moriarty.

Ar y fainc

Scott Baldwin; Rob Evans; Tomas Francis; Cory Hill; James King; Gareth Davies; Sam Davies; Jamie Roberts.