Sergio Parisse yn ennill cap rhif 122 yn erbyn Cymru (Llun: Wikipedia)
Mae’r Eidal wedi cyhoeddi eu tîm i herio Cymru yn eu gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sul.

Mae 10 o’r rheiny a ddechreuodd yn y gêm pan drechon nhw Dde Affrica’r llynedd yn cael dechrau unwaith eto.

Ymhlith yr olwyr, yr unig newid yw fod Edoardo Gori’n dychwelyd i safle’r mewnwr yn lle Giorgio Bronzini.

Mae’r canolwr Michele Campagnaro, sydd wedi creu argraff yng nghrys Caerwysg, wedi’i gynnwys ymhlith yr eilyddion, tra bod Luke McLean a Tommaso Benvenuti’n cyfuno yn y canol.

Yn gwisgo crys yr Eidal am y tro cynta’ fydd y blaenasgellwr Maxime Mbanda, tra bydd y capten a’r wythwr Sergio Parisse yn ennill cap rhif 122.

Yr Eidal: E Padovani (Zebre); G Bisegni (Zebre), T Benvenuti (Treviso), L McLean (Treviso), G Venditti (Zebre); C Canna (Zebre), E Gori (Treviso); A Lovotti (Zebre), O Gega (Treviso), L Cittadini (Bayonne), M Fuser (Treviso), G Biagi (Zebre), A Steyn (Treviso), M Mbanda (Zebre), S Parisse (Stade Francais, capten).

Eilyddion: L Ghiraldini (Toulouse), S Panico (Calvisano), P Ceccarelli (Zebre), J Furno (Zebre), F Minto (Treviso), G Bronzini (Treviso), T Allan (Treviso), M Campagnaro (Caerwysg).