Gweilch 20–14 Bryste
Sgoriodd Sam Underhill gais hwyr wrth i’r Gweilch drechu Bryste yn y Cwpan Eingl-Gymreig ar y Liberty brynhawn Sadwrn.
Aeth y tîm cartref ar y blaen yn y munud cyntaf gyda chais Dafydd Howells a throsiad Luke Price.
Ychwanegodd Price gic gosb wedi hynny ond roedd Bryste o fewn cyrraedd ar yr egwyl diolch i gais Max Crumpton a throsiad Billy Searle.
Ymestynnodd Price fantais y Gweilch i chwe phwynt ar yr awr cyn i Bryste fynd ar y blaen am y tro cyntaf saith munud o ddiwedd y gêm pan drosodd Searle wedi cais Marc Jones.
Y Gweilch aeth â hi serch hynny diolch i gais hwyr Underhill ychydig funudau’n ddiweddarach, 20-14 y sgôr terfynol.
.
Gweilch
Ceisiau: Dafydd Howells 1’, Sam Underhill 76’
Trosiadau: Luke Price 1’
Ciciau Cosb: Luke Price 11’, 60’
Cerdyn Melyn: Ben John 41’
.
Bryste
Ceisiau: Max Crumpton 19’, Marc Jones 73’
Trosiadau: Billy Searle 19’, 73’