Scarlets 17–32 Saracens
Colli fu hanes y Scarlets wrth i’r Saracens ymweld â Llanelli yn y Cwpan Eingl-Gymreig nos Wener.
Roedd y tîm cartref ddeunaw pwynt ar ei hôl hi ar yr egwyl ar Barc y Scarlets ac er iddynt gau mymryn ar y blwch yn yr ail hanner, rhy ychydig rhy hwyr oedd hi.
Croesodd Nick Tompkins a Matthew Gallagher am gais yr un wrth i’r ymwelwyr sefydlu mantais iach yn yr hanner cyntaf.
Rhoddodd ceisiau Morgan Allan a Billy McBryde lygedyn o obaith i’r Scarlets wedi’r egwyl ond wnaeth y Saracens ddim gadael y Cymry’n rhy agos gyda ceisiau Michael Ellery a Tom Whiteley yn sicrhau buddugoliaeth bwynt bonws iddynt.
.
Scarlets
Ceisiau: Morgan Allen 52’, Billy McBryde 66’
Trosiadau: Jack Maynard 52’, Billy McBryde 66’
Ciciau Cosb: Jack Maynard 42’
.
Saracens
Ceisiau: Nick Tompkins 16’, Matthew Gallagher 23’, Michael Ellery 62’, Tom Whiteley 74’
Trosiadau: Max Malins 16’, Tom Whiteley 62’, 74’
Ciciau Cosb: Max Malins 1’, 40’
Cardiau Melyn: Rotimi Segun 54’, Tim Streather 80’