Brive 36–19 Dreigiau
Mae’r Dreigiau allan o Gwpan Her Ewrop ar ôl colli yn erbyn Brive yn y Stade Amédée-Domenech brynhawn Sadwrn.
Mae’r Cymry’n gorffen yn ail yng ngrŵp 3 er gwaethaf y golled, ond fydd hynny ddim yn ddigon i sicrhau lle iddynt yn wyth olaf y gystadleuaeth.
Roedd angen buddugoliaeth ar y Dreigiau os am obaith o unai ennill y grŵp neu fod yn un o’r timau gorau i orffen yn ail.
Dechrau gwael a gawsant serch hynny wrth i geisiau Soso Bekoshvili a Taku Ngwenya ynghyd â chicio cywir Gaetan Germain roi pymtheg pwynt o fantais i’r tîm cartref wedi pymtheg munud.
Roedd y Dreigiau’n ôl yn y gêm ar yr egwyl diolch i gais yr un i Tavis Knoyle a Sarel Pretorius o bobtu sgôr Damien Lavergne i Brive, 22-14 wrth droi.
Tri phwynt a oedd ynddi wedi ail gais Pretorius a thrydydd y Dreigiau’n gynnar yn yr ail hanner ond y Ffrancwyr a orffennodd orau.
Sicrhaodd Bekoshvili’r pwynt bonws gyda’r pedwerydd cais cyn i Patrick Toetu roi’r eisin ar y gacen gyda’r pumed, 36-19 y sgôr terfynol.
Mae’r Dreigiau’n gorffen yn ail yn eu grŵp er gwaethaf y canlyniad ond fydd pedwar pwynt ar ddeg ddim yn ddigon i ennill lle yn rownd go-gynderfynol y Cwpan Her eleni.
.
Brive
Ceisiau: Soso Bekoshvili 5’, 65’, Taku Ngwenya 15’, Damien Lavergne 34’, Patrick Toetu 70’
Trosiadau: Gaetan Germain 15’, 34’, 65’, 70’
Cic Gosb: Gaetan Germain 14’
Cerdyn Melyn: Romain Cabannes 38’
.
Dreigiau
Ceisiau: Tavis Knoyle 20’, Sarel Pretorius 39’, 48’
Trosiadau: Angus O’Brien 20’ 39’