Bydd y Scarlets yn wynebu Ulster heno yn fyw o flaen y camerâu teledu gan obeithio am ail fuddugoliaeth o fewn wythnos ar Barc y Scarlets.

Ar ôl cyfnod hir yn gwella o anaf i’w arddwrn, bydd y prop Rob Evans yn ôl, ac mae’n teimlo’n hyderus cyn yr ornest fydd yn penderfynu pwy sy’n hawlio’r pedwerydd safle yng nghynghrair y PRO12.

Y Scarlets sydd â’r llaw uchaf yn y gystadleuaeth – maen nhw bedwar pwynt ar y blaen i’w hymwelwyr o’r Werddon. Er hynny, Ulster enillodd y gêm ddiwethaf rhwng y ddau dîm ym Melffast o 19 i 8.

“Mae’n dda cael bod nôl,” meddai Rob Evans cyn y gêm.

“Mae wedi bod braidd yn rhwystredig cael anaf a chymryd amser eithaf hir i wella, ond mae’n dda bod nôl nawr.”

Ychwanegodd fod y tîm wedi bod yn siomedig gyda’r perfformiad yn erbyn y Gweilch ar ddiwrnod San Steffan, ond ei fod yn dda ennill yn erbyn y Gleision yr wythnos ddiwethaf.

“Mae’n gêm anferth i ni wthio ymlaen nawr a gobeithio gallwn gael canlyniad mawr ddydd Gwener,” meddai Rob Evans.

Scarlets v Ulster yn fyw heno am 7:30 ar Scrum V, BBC 2 Cymru.