Gweilch 71–3 Grenoble

Mae lle’r Gweilch yn wyth olaf Cwpan Her Ewrop yn ddiogel yn dilyn buddugoliaeth swmpus yn erbyn Grenoble ar y Liberty brynhawn Sadwrn.

Mae’r rhanbarth o Gymru bellach wedi ennill pedair allan o bedair yng ngrŵp 2 gyda phedwar pwynt bonws hefyd.

Rhoddodd y Gweilch gweir i’r Ffrancwyr oddi cartref nos Wener diwethaf ac er i Gilles Bosch gicio’r ymwelwyr ar y blaen wedi pedwar munud, stori debyg oedd hi eto yn Abertawe.

Daeth cais cyntaf y Gweilch i Olly Cracknell hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf cyn i Ashley Beck ychwanegu’r ail ddeg munud yn ddiweddarach.

Roedd y pwynt bonws yn ddiogel i’r Cymry cyn hanner amser diolch i ddau gais yn neg munud olaf yr hanner cyntaf gan y bachwr rhyngwladol, Scott Baldwin.

Dechreuodd y Gweilch yr ail hanner ar dân hefyd gyda Dan Evans, a oedd yn chwarae ar yr asgell am newid, yn croesi am bumed cais ei dîm eiliadau wedi’r ail ddechrau.

Roedd Grenoble ar chwâl wrth i Brendon Leonard groesi am chweched y tîm cartref funud yn ddiweddarach.

Ychwanegodd Dan Biggar y seithfed cyn i’r eilyddion ymuno yn yr hwyl. Roedd cais yr un i Hanno Dirksen a Scott Otten cyn i Evans sgorio’i ail ef a degfed ei dîm bum munud o ddiwedd yr wyth deg!

Roedd digon o amser ar ôl i Driksen ychwanegu ei ail ef hefyd wrth i’r Gweilch wneud ffyliaid llwyr o Grenoble druan.

Gorffennodd Biggar y gêm gydag un pwynt ar hugain, wyth trosiad yn ogystal â’i gais.

Mae’r canlyniad yn rhoi’r Gweilch ym mhell ar y blaen ar frig grŵp 2 ac yn sicr o’u lle yn wyth olaf y gystadleuaeth.

.

Gweilch

Ceisiau: Olly Cracknell 19’, Ashley Beck 30’, Scott Baldwin 34’, 38’, Dan Evans 41’, 75’, Brendon Leonard 42’, Dan Biggar 56’, Hanno Dirksen 66’ 78’, Scott Otten 72’

Trosiadau: Dan Biggar 19’, 30’, 34’, 40’, 42’, 56’, 72’, 75’

.

Grenoble

Ciciau Cosb: Gilles Bosch 4’

Cerdyn Melyn: Mathies Marie 33’