Roedd angen gêm i godi calon ar y Gleision – a dyna’n union a gafwyd yn erbyn Caerfaddon ym Mharc yr Arfau heddiw.

Roedd yn rhaid i’r rhanbarth aros tan ddechrau’r ail hanner nes iddyn nhw gael y gorau o griw Caerfaddon, ac fe ddigwyddodd hynny trwy geisiau Matthew Morgan, Alex Cuthbert a Scott Andrews.

Fe ddaeth dau drosiad o droed Steven Shingler hefyd, a thrwy dair cic gosb, fe ychwanegodd 13 o bwyntiau at gyfanswm y Gleision.

Un gic gosb gan Tom Homer ddaeth ag unig driphwynt Caerfaddon, ond fel arall, doedden nhw ddim yn gallu cystadlu â’r Gleision.

Alex Cuthbert had a starring role as the Blues opened up a five-point lead at the top of Pool Four of the European Challenge Cup with a welcome victory at the Arms Park.