Dan Lydiate (llun: David Davies/PA)
Ni fydd blaenasgellwr Cymru, Dan Lydiate, yn gallu chwarae eto’r tymor hwn oherwydd anaf difrifol i’w ben-glin.

Mae hyn yn ergyd i obeithion Cymru wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer gemau’r chwe gwlad a fydd yn cychwyn yn erbyn yr Eidal yn Rhufain ar 5 Chwefror.

Mae’r anaf yn chwalu unrhyw obaith ganddo hefyd i gael ei ddewis i garfan y Llewod ar gyfer eu taith i Seland Newydd yr haf nesaf.

Mewn datganiad, dywed ei glwb, y Gweilch:

“Mae Dan Lydiate allan ohoni am weddill y tymor ar ôl dioddef difrod gewynnol yn y gêm rhwng Cymru a De Affrica.

“Cadarnhawyd y bydd angen llawdriniaeth, ac o ganlyniad i hyn ni fydd yn chwarae eto tan y tymor nesaf.”

Dyma’r ail anaf iddo ei ddioddef eleni. Ef oedd capten Cymru yn y gêm yn erbyn Lloegr yn Twickenham ym mis Mai, ond anafodd ei ysgwydd, ac o’r herwydd ni chafodd fynd ar daith Cymru i Seland Newydd.