Fe fydd modd i dimau ennill pwyntiau bonws yn ystod pencampwriaeth rygbi’r Chwe Gwlad yng ngwanwyn 2017 wrth i system newydd gael ei chyflwyno.

Mae’r system yn golygu y bydd y tîm buddugol yn ennill pedwar pwynt, gyda phwynt ychwanegol yn cael ei wobrwyo am sgorio pedwar cais neu fwy.

Ac fe fydd modd i’r tîm sy’n colli hefyd ennill pwyntiau os ydyn nhw’n llwyddo i sgorio pedwar cais neu fwy, neu’n colli o saith pwynt neu lai.

Bydd gêm gyfartal yn golygu dau bwynt yr un i’r ddau dîm, gyda’r siawns am bwynt ychwanegol o sgorio pedwar cais neu fwy.

At hyn, bydd tri phwynt arall yn cael ei wobrwyo i wlad sy’n llwyddo i gipio’r Gamp Lawn.

‘Gwobrwyo ceisiau’

Mae’r system yn cael ei dreialu ar gyfer gemau’r merched a’r timau o dan 20 hefyd, ac mae’n dilyn system debyg gan Gwpan y Byd, cwpanau Ewrop, Pencampwriaeth Aviva a’r Guinness PRO12.

“Mae’n bwysig inni sicrhau fod unrhyw system pwyntiau bonws sy’n cael ei gyflwyno ddim yn cymryd oddi wrth y ddynameg unigryw,” meddai John Feehan, Prif Weithredwr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

“Ar yr un pryd, rydyn ni hefyd yn ymwybodol fod angen inni wobrwyo ceisiau sy’n cael eu sgorio a’r modd o ymosod yn y chwarae sy’n arwain at fwy o geisiau a mwy o wobrwyon i gefnogwyr a chwaraewyr fel ei gilydd.”