Gallai buddugoliaeth dros Gymru yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn sbarduno tîm rygbi De Affrica i wyrdroi eu perfformiadau siomedig diweddar, yn ôl eu hyfforddwr Allister Coetzee.

Collodd y Springbok yn erbyn yr Eidal am y tro cyntaf erioed yr wythnos diwethaf, sy’n golygu eu bod nhw bellach wedi colli saith allan o 11 o gemau o dan arweiniad Coetzee.

Maen nhw hefyd wedi colli yn erbyn Iwerddon, yr Ariannin a Seland Newydd yn y cyfnod hwn.

Ond fe ddaw tro ar fyd, meddai Coetzee, er eu bod nhw yng nghanol cyfnod “poenus” ar hyn o bryd.

“Yn y tymor byr, mae rygbi De Affrica mewn poen ond dw i’n credu y bydd hyn o fantais i’n gêm ni yn y tymor hir.

“Ry’n ni wedi mynd am yn ôl ac ar adegau, ry’n ni wedi ceisio cuddio’r craciau ond fel De Affricaniaid, gallwn ni weld nad yw’r drefn yn llwyddo.”

Mae Coetzee hefyd wedi beirniadu safon ffitrwydd ei chwaraewyr, a hynny am fod rhan helaeth ohonyn nhw’n chwarae’r tu allan i Dde Affrica pan nad ydyn nhw gyda’i gilydd fel carfan genedlaethol.

Un o’r chwaraewyr y mae amheuon am ei ffitrwydd yw’r blaenasgellwr Willem Alberts a gafodd anaf i’w wddf wythnos diwethaf wrth wynebu’r Eidal.

Doedd Alberts ddim ar gael i ymarfer fore ddoe, ac fe fydd ganddo tan fore Iau i brofi ei ffitrwydd cyn i’r tîm gael ei gyhoeddi.

Ond pe na bai e ar gael, fe allai Coetzee droi at Oupa Mohoje neu Jean-Luc du Preez.