Dreigiau 36–21 Scarlets
Y tîm cartref aeth â hi wrth i’r Dreigiau groesawu’r Scarlets i Rodney Parade yn y Cwpan Eingl-Gymreig nos Wener.
Roedd Bois y Sosban chwe phwynt ar y blaen ar yr egwyl ond yn ôl y daeth y Dreigiau gan gipio buddugoliaeth bwynt bonws yn yr ail hanner.
Ciciau cosb a oedd unig bwyntiau’r hanner awr cyntaf, un i’r maswr cartref, Angus O’Brien, a thair i Dan Jones a’r Scarlets.
Newidiodd hynny pan roddodd cais Sam Beard a throsiad O’Brien y tîm cartref ar y blaen am y tro cyntaf. Bois y Sosban a oedd ar y blaen wrth droi serch hynny diolch i gais Dafydd Hughes a throsiad Jones yn eiliaidau olaf yr hanner cyntaf.
Gyda Jack Condy yn y gell gosb i’r Scarlets yn gynnar yn yr ail hanner fe fanteisiodd y Dreigiau gyda chais Nick Crosswell a throsiad O’Brien yn eu rhoi yn ôl bwynt ar y blaen.
Ymestynnodd y cefnwr, Carl Meyer, y fantais honno gyda thrydydd cais cyn i Corey Baldwin daro nôl i roi’r Scarlets yn ôl yn y gêm toc wedi’r awr.
Rhoddodd cais Harrison Keddie bwynt bonws i’r Dreigiau yn ogystal ag ychydig o olau dydd rhwng y ddau dîm, a rhoddodd Beard yr eisin ar y gacen yn y munud olaf gyda’i ail gais ef a phumed ei dîm, 36-21 y sgôr terfynol.
.
Dreigiau
Ceisiau: Sam Beard 30’, 80’, Nick Crosswell 51’, Carl Meyer 57’, Harrison Keddie 65’
Trosiadau: Angus O’Brien 31’, 52’, 58’, Arwel Robson 80’
Ciciau Cosb: Angus O’Brien 16’
.
Scarlets
Ceisiau: Dafydd Hughes 39’, Corey Baldwin 62’
Trosiad: Dan Jones 40’
Ciciau Cosb: Dan Jones 5’, 11’, 23’
Cerdyn Melyn: Jack Condy 44’