Leigh Halfpenny
Dechrau ansicr gafodd Cymru yn erbyn Awstralia yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd, gyda Sanchez dros yr ymwelwyr yn sgorio cic gosb o fewn tri munud i’r chwiban gynta’.

Fe gymrodd hi bron i chwarter awr i Gymru ddod â’r sgor yn gyfartal (3-3), a hynny gyda chic gosb gan Leigh Halfpenny.

Cyfnod o gamgymeriadau trafod gafwyd wedyn, y bêl yn cael ei gollwng a’i phasio ymlaen, a dim llawer o greu na dychymyg gan y naill ochr na’r llall.

Ond, sgarmes dda gan Gymru yn dod o fewn metr i’r llinell gais, a Ken Owens yn gwthio’n amlwg. Fe ddaeth cic gosb o ganlyniad i’r symudiad hwn, a Leigh Halfpenny yn derbyn y bêl i’w chicio… Mae’n sgorio a’i gwneud hi’n 6-3.

Cymru’n deffro

A hanner awr ar y cloc, fe ddaeth y crysau cochion yn fyw, gyda thaclo caled gan Sam Warburton a rhediadau da gan Liam Williams a Paul Moriarty yng nghanol y cae.

Scott Williams ac Alun Wyn Jones yn gry’ hefyd, ond yr Archentwyr yn dal eu tir yn rhyfeddol yn y munudau ola’ o’r deugain cynta’.

Mynd am y cornel oedd y dacteg ddwywaith  gan Leigh Halfpenny, ac mae ei gicio wedi bod yn gywir iawn wrth gadw’r Ariannin dan bwysau.

Fe groesodd Liam Williams y llinell gais wedi 37 munud, ond roedd Moroni, ei daclwr, wedi’i wthio dros yr ystlys, felly dim sgor.

Gyda dau funud o’r hanner cynta’n weddill, mae Herrera (Ariannin) yn cael carden felen gan y dyfarnwr, ac am hynny mae’n rhaid iddo dreulio deng munud yn y gell gosb.