Munster 33–0 Gweilch
Croesodd Munster am bump cais wrth roi cweir i’r Gweilch yn y Guinness Pro12 ar Barc Musgrave nos Wener.
Sicrhaodd Dave Kilcoyne y fuddugoliaeth a’r pwynt bonws gyda’i ail gais ef a phedwerydd ei dîm ddeuddeg munud o ddiwedd yr wyth deg.
Saith munud yn unig a oedd ar y cloc pan diriodd y prop, Kilcoyne, gais cyntaf y tîm cartref. Ychwanegodd Darren Sweetnman ail yn fuan wedyn ac roedd y Gwyddelod bedwar pwynt ar ddeg ar y blaen wedi chwarter awr.
Felly yr arhosodd hi tan hanner amser cyn i Ronan O’Mahony groesi am drydydd cais yn gynnar yn yr ail gyfnod.
Daeth y pedwerydd holl bwysig i Kilcoyne wedi hynny cyn i Robin Copeland sgorio’r pumed yn y munudau olaf.
Llwyddodd Tyler Bleyndaal gyda phedwar trosiad allan o bump wrth i Munster ennill o 33 pwynt i ddim.
Mae’r canlyniad yn codi Munster dros y Gweilch i frig y Pro12 wrth i’r rhanbarth o Gymru lithro i’r trydydd safle yn y tabl.
.
Munster
Ceisiau: Dave Kilcoyne 7’, 68’, Darren Sweetnman 13’, Ronan O’Mahony 53’, Robin Copeland 77’
Trosiadau: Tyler Bleyndaal 8’ 14’, 70’, 78’