Alun Wyn Jones (Llun: Chris Jobling CCA 2.0)
Fydd y clo, Alun Wyn Jones, ddim yn nhîm Cymru i herio Awstralia y penwythnos hwn, a hynny oherwydd marwolaeth ei dad.

Fe fu Tim Jones yn gwisgo crys coch Cymru yn ei ddyddiau yn astudio’r Gyfraith yn Aberystwyth yn y 1960au. Fe fu’n gyfreithiwr am ddeugain mlynedd ac fe chwaraeodd dros dîm Abertawe yn y 1970au.

Fe fu Tim Jones hefyd yn aelod o garfan Cymru yn ystod tymor 1973-74.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi anfon neges o gydymdeimlad at Alun Wyn Jones a’i deulu, gan ddweud eu bod yn meddwl amdanyn nhw yn eu colled.