Andy Powell Llun: Y Gleision
Mae cyn wythwr Cymru Andy Powell wedi ymddeol o rygbi yn dilyn anaf.

Dywedodd Clwb Rygbi Merthyr mewn datganiad bod y chwaraewr 35 mlwydd oed wedi ei chael yn anodd dod dros anaf i’w ben-glin.

Talodd y clwb deyrnged hefyd i’r rhan fawr chwaraeodd Andy Powell wrth helpu Merthyr gael dyrchafiad i’r Bencampwriaeth yn ystod ei dymor cyntaf yn y clwb.

Enillodd Andy Powell 23 cap i Gymru ac fe aeth ar daith y Llewod i Dde Affrica yn 2009.

Roedd yn gymeriad lliwgar gan chwarae i’r Dreigiau yn ogystal â Chaerlŷr, y Scarlets, Gleision Caerdydd a Wasps ac aeth i drwbl yn 2010 pan gafodd ei gyhuddo o yfed a gyrru yn dilyn digwyddiad honedig pan yrrodd bygi golff ar draffordd yr M4.

Dywedodd cadeirydd Clwb Rygbi Merthyr Peter Morgan bydd hiraeth amdano “ar ac oddi ar y cae” ym Merthyr ac y bydd croeso iddo o hyd yn y clwb.