Sam Warburton Llun: Undeb Rygbi Cymru
Bydd Sam Warburton yn cael llawdriniaeth ar anaf i asgwrn ei foch heddiw  ond mae disgwyl iddo fod yn holliach erbyn pedwar gêm ryngwladol Cymru ym mis Tachwedd.

Fe wnaeth Sam Warburton wrthdaro gyda Josh van der Flier pan gollodd Gleision Caerdydd 16-13 i Leinster yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Yn dilyn sganiau a barn arbenigol bydd llawfeddygon yn gosod plât bach yn ei foch heddiw.  Mae’n debyg y bydd allan o’r gêm rhwng dwy a phedair wythnos.

Mae’n golygu ei bod hi’n debygol iawn y bydd Sam Warburton yn gallu chwarae eto erbyn gem agoriadol tymor yr hydref yn erbyn Awstralia yng Nghaerdydd ar 5 Tachwedd.

Roedd prif hyfforddwr dros dro Cymru, Rob Howley, eisoes wedi awgrymu mai Sam Warburton fydd y capten ar gyfer cyfres o gemau sydd hefyd yn gweld yr Ariannin, Japan a De Affrica yn ymweld â Stadiwm y Principality.