Mae’r chwaraewr sydd wedi ennill y mwyaf o gapiau dros Gymru, Gethin Jenkins, wedi arwyddo estyniad ar ei gytundeb gyda’r Gleision.

Nid yw’r Gleision wedi datgelu hyd cytundeb y prop 35 mlwydd oed ond credir ei fod yn para tan 2018.

Mae Gethin Jenkins wedi bod gyda’r Gleision am 11 mlynedd dros ddau gyfnod ac ef yw’r capten presennol.

Mae wedi ennill 126 o gapiau i Gymru ac wedi chwarae i’r Llewod ar eu teithiau i Seland Newydd a De Affrica yn 2005 a 2009.

“Rwy’n hynod o falch o fod wedi arwyddo estyniad gyda Gleision Caerdydd,” meddai Gethin Jenkins wrth cardiffblues.com.

“Ar ôl treulio 11 mlynedd o fy ngyrfa yma, roedd yn benderfyniad hawdd i’w wneud.”

Mae prif hyfforddwr y Gleision Danny Wilson hefyd wedi canmol Gethin Jenkins: “Mae Gethin wedi bod yn brop amlwg am fwy na degawd ac wedi bod yn anghredadwy i Gleision Caerdydd.

“Mae’n chwaraewr proffesiynol gwych, sydd wedi ymestyn ei yrfa, ac mae wedi bod yn arweinydd allweddol i ni wrth geisio safonau ar ac oddi ar y cae.”