Warren Gatland
Mae disgwyl i Warren Gatland gael ei enwi’n brif hyfforddwr taith y Llewod i Seland Newydd y flwyddyn nesaf mewn cynhadledd i’r wasg yng Nghaeredin heddiw.

Bydd hyfforddwr Cymru yn cael ei benodi i’r swydd am yr eilwaith wedi iddo arwain y Llewod i fuddugoliaeth dros Awstralia yn 2013 pan lwyddodd y Llewod i gipio’r gyfres 2-1.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi caniatáu’r hyfforddwr 52 mlwydd oed o Seland Newydd i gymryd cyfnod sabothol o wyth mis o’i swydd i ymgymryd â’r rôl gan fod hynny’n gynnwys yn ei gytundeb.

Mae disgwyl y bydd Warren Gatland, ynghyd â rheolwr taith y Llewod John Spencer, yn gadael am Seland Newydd ddydd Iau i ddechrau’r cynllunio.

Mae Warren Gatland eisoes wedi lleisio pryder am pa mor anodd fydd y daith y tro hwn gan bod disgwyl i’r Llewod chwarae pum gemau yn erbyn timau pencampwriaeth Super Rugby, un gêm yn erbyn tîm taleithiol, un gêm yn erbyn y Seland Newydd Maori a thri prawf yn erbyn y tîm cenedlaethol sydd hefyd yn bencampwyr y byd.

Roedd Warren Gatland yn rhan o dîm hyfforddi y Llewod o dan Syr Ian McGeechan i Dde Affrica yn 2009.

Dim ond unwaith, yn 1971, mae’r Llewod wedi llwyddo i drechu’r Crysau Duon mewn cyfres ar daith i Seland Newydd.