Crafodd tîm rygbi Cymru dan 20 fuddugoliaeth o 10-9 dros Georgia yng Nghwpan Rygbi Ieuenctid y Byd nos Sadwrn.

Ond mae’n ymddangos bod gobeithion tîm Jason Strange o gyrraedd y rownd nesaf bron iawn ar ben.

Dechreuodd Cymru’n gryf gyda chais i Leon Brown yn y munudau agoriadol, ond tarodd Georgia yn ôl gan fanteisio ar eu sgrym.

Ciciodd Jarrod Evans bump o bwyntiau, ond ymatebodd mewnwr Georgia Gela Aprasidze gyda thair cic gosb.

Bydd angen buddugoliaeth swmpus ar Gymru dros Seland Newydd yn eu gêm olaf i gadw eu gobeithion o gyrraedd y rownd nesaf yn fyw, a hynny ar ôl i Iwerddon eu curo.