Y fuddugoliaeth o fewn cyrraedd, medd capten Cymru
Mae capten tîm rygbi Cymru, Sam Warburton wedi dweud ei fod yn gobeithio o hyd y gall Cymru ennill y gyfres o dair gêm yn erbyn Seland Newydd.

Collodd Cymru o 39-21 yn y gêm gyntaf yn Auckland ar ôl iddyn nhw fod ar y blaen o 18-15 hanner amser fore Sadwrn.

Roedd ganddyn nhw flaenoriaeth o 21-18 gydag ugain munud o’r ornest yn weddill, ond fe sicrhaodd y Crysau Duon y fuddugoliaeth gyda’u hegni arferol yn y munudau clo.

Mae Seland Newydd wedi curo Cymru 27 o weithiau o’r bron erbyn hyn.

Dywedodd Sam Warburton: “Roedd y cais ar y diwedd yn eitha siomedig ac fe wnaeth i’r sgôr edrych yn hyll.

“Roedden nhw’n llwyr haeddu ennill, ond dwi’n sicr y byddwn ni’n well o fod wedi cael y profiad.

“Ry’n ni’n dal i gredu bod gyda ni siawns yn y gyfres. Tan fod hynny oddi ar y bwrdd yn llwyr, yr agwedd fydd gyda fi yw fod unrhyw beth yn bosib.

Bydd Cymru’n paratoi ar gyfer yr ail brawf drwy fynd i Hamilton, tref gartref hyfforddwr Cymru, Warren Gatland.

Roedd Gatland yn nhîm y Chiefs a drechodd Gymru yn 1988.

Y clo Luke Charteris fydd yn arwain Cymru yn y gêm honno gyda dim ond saith o’r prif chwaraewyr yn cadw eu lle – Scott Williams, Gareth Davies, Rob Evans, Scott Baldwin, Tomas Francis, Jake Ball ac Ellis Jenkins. Mae Bradley Davies, Ross Moriarty a Gareth Anscombe hefyd yn y garfan.

Mae Rhys Patchell hefyd ymhlith yr eilyddion ar ôl cael ei ychwanegu at y garfan ar ôl i George North anafu llinyn y gâr, ac mae Aaron Jarvis ac Aled Davies hefyd ar y fainc.

Cymru: Matthew Morgan, Eli Walker, Tyler Morgan, Scott Williams, Tom James, Rhys Priestland, Gareth Davies, Rob Evans, Scott Baldwin, Tomas Francis , Jake Ball, Luke Charteris (capten), Josh Turnbull, Ellis Jenkins, James King.

Eilyddion: Kristian Dacey, Aaron Jarvis, Rhodri Jones, Bradley Davies, Ross Moriarty, Aled Davies, Gareth Anscombe, Rhys Patchell