Mae asgellwr y Scarlets Harry Robinson wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o rygbi ar unwaith oherwydd anaf.

Ymunodd Harry Robinson, 23, â’r Scarlets yn ystod yr haf 2014 o Gleision Caerdydd. Mae wedi ymddangos 30 o weithiau i’r Scarlets gan sgorio naw cais yn ei dymor cyntaf i ennill gwobr sgoriwr ceisiau uchaf y rhanbarth y tymor hwnnw.

Enillodd Harry Robinson tri chap rhyngwladol gan sgorio dau gais.

‘Tristwch mawr’

Dywedodd Jon Daniels, rheolwr cyffredinol rygbi’r Scarlets: “Gyda thristwch mawr y mae’n rhaid i ni fel rhanbarth gadarnhau ymddeoliad Harry Robinson o rygbi. Mae’n chwaraewr ifanc dawnus oedd â dyfodol rygbi disglair o’i flaen.

“Mae wedi bod yn gyfnod anodd i Harry gan ei fod wedi gweithio’n eithriadol o galed i wella o’i anaf. Rwy’n siŵr y bydd y rhinweddau oedd ganddo’n chwarae rygbi yn gaffaeliad iddo yn ei yrfa yn y dyfodol.”