Scarlets 10–46 Glasgow

Rhoddwyd cnoc i obeithion y Scarlets o orffen ym mhedwar uchaf y Guinness Pro12 wrth iddynt golli gartref yn erbyn Glasgow brynhawn Sadwrn.

Ar ôl treulio’r tymor hyd yma yn safleoedd y gemau cynderfynol, mae Bois y Sosban mewn perygl o orffen y tu allan i’r pedwar uchaf wedi buddugoliaeth yr Albanwyr ar Barc y Scarlets a buddugoliaeth Ulster yn erbyn Zebre brynhawn Sadwrn.

Hanner Cyntaf

Ciciodd Steve Shingler y Scarlets ar y blaen gyda chic gosb gynnar ond Glasgow a gafodd gais cyntaf y gêm pan groesodd Finn Russell wedi chwe munud.

Trosodd y maswr ei gais ei hun cyn ychwanegu cic gosb hefyd i roi saith pwynt o fantais i’w dîm hanner ffordd trwy’r hanner.

Croesodd Russell am ei ail gais yn fuan wedyn ond yn ôl y daeth y Scarlets gyda Liam Williams yn sgorio cais yn ei gêm gyntaf yn ôl wedi anaf.

Rhoddodd trosiad Shingler y Cymry o fewn pum pwynt ond Glasgow a gafodd y gair olaf cyn yr egwyl wrth i gais yr asgellwr, Lee Jones, ymestyn y bwlch i ddeg pwynt wrth droi.

Ail Hanner

Sicrhaodd Glasgow y pwynt bonws ym munud cyntaf yr ail hanner wrth i’r mewnwr, Henry Pyrgos, groesi am bedwerydd cais yr ymwelwyr.

Parhau i reoli a wnaeth yr Albanwyr wedi hynny gyda Mark Bennett a Tommy Seymour yn sgorio cais yr un i fynd a’r gêm o afael Bois y Sosban.

Daeth sgôr olaf y gêm chwe munud o’r diwedd pan groesodd Jones am ei ail gais ef a seithfed ei dîm, 10-46 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn golygu fod y Scarlets yn llithro i’r pumed safle yn nhabl y Pro12 gyda dim ond dwy gêm ar ôl. Ulster sydd bellach yn bedwerydd wedi iddynt guro Zebre oddi cartref.

.

Scarlets

Cais: Liam Williams 31’

Trosiad: Steve Shingler 32’

Cic Gosb: Steve Shingler 2’

.

Glasgow

Ceisiau: Finn Russell 6’, 25’, Lee Jones 37’, 73’, Henry Pyrgos 41’, Mark Bennett 58’, Tommy Seymour 64’

Trosiadau: Finn Russell 7’, 41’, 58’, 65’

Cic Gosb: Finn Russell 18’