Dreigiau Casnewydd Gwent 15–16 Caeredin

Caeredin aeth â hi wrth iddynt ymwelwd â Rodney Parade i herio’r Dreigiau yn y Guinness Pro12 brynhawn Sul.

Doedd dau gais Hallam Amos ddim yn ddigon i’r tîm cartref wrth i’r Albanwyr ennill mewn gêm agos.

Hanner Cyntaf

Yr ymwelwyr a gafodd y gorau o chwarter cyntaf digon di fflach, a hwy a gafodd unig bwyntiau’r ugain munud cyntaf hefyd, cic gosb o bellter gan Blair Kinghorn.

Bu bron i Hamish Watson gael cais cyntaf y gêm wedi hynny ond tiriodd blaenasgellwr Caeredin y bêl fodfedd neu ddwy yn fyr o’r gwyngalch.

Dyblodd Sam Hidalgo-Clyne fantais yr Albanwyr wedi hanner awr ond cafodd y Dreigiau eu cyfnod gorau wedi hynny.

Bu bron i Amos sgorio yn y gornel chwith ond roedd wedi camu ar yr ystlys cyn tirio. Bu bron i Phil Price a Lewis Evans sgorio hefyd ond bu rhaid iddynt fodloni ar dri phwynt yn unig o droed Dorian Jones yn y diwedd.

Munud a oedd i fynd tan yr egwyl pan ddigwyddodd hynny ond roedd chwe phwynt rhwng y timau eto wrth droi gan i’r Dreigiau ildio cic gosb yn syth o’r ail ddechrau, 3-9 y sgôr wedi cic Hidalgo-Clyne.

Ail Hanner

Dechreuodd y Dreigau’r ail hanner ar dân gyda chais i Amos. Gnwaeth Carl Meyer yn dda i ennill y tir gwreiddiol cyn i asgellwr Cymru orffen yn daclus.

Rhoddodd trosiad Jones y tîm cartref ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm, ond am dri munud yn unig yr arhosodd hi felly cyn i Gaeredin daro nôl, Watson yn sgorio wedi sgarmes symudol a Hidalgo-Clyne yn trosi.

Wnaeth y Dreigiau ddim rhoi’r ffidl yn y to ac roeddynt o fewn pwynt toc cyn yr awr diolch i ail gais Amos. Dechreuodd Sarel Pretorius wrthymosodiad effeithiol o’i hanner ei hun cyn i Amos orffen yn effeithiol am yr eildro yn y gêm.

Cafodd Hidalgo-Clyne ddau gyfle i ymestyn mantais Caeredin yn y chwarter olaf ond methodd gyda dau gynnig at y pyst, ond er eu bod o fewn un sgôr fe fethodd y Dreigiau a chwarae digon o’r gêm yn hanner Caeredin yn y munudau olaf i gipio’r fuddugoliaeth.

Rhaid fu iddynt fodloni yn hytrach ar bwynt bonws wrth iddynt aros yn ddegfed yn nhabl y Pro12. Mae’r canlyniad yn newyddion drwg i’r Gleision hefyd gan ei fod yn codi Caeredin drosynt i’r seithfed safle yn y tabl.

 

.

Dreigiau

Ceisiau: Hallam Amos 42’, 54’

Trosiad: Dorian Jones 43’

CicGCosb: Dorian Jones 39’

.

Caeredin

Cais: Hamish Watson 45’

Trosiad: Sam Hidalgo-Clyne 46’

Ciciau Cosb: Blair Kinghorn 18’, Sam Hidalgo-Clyne 31’, 40’