Fe fydd yn rhaid i Jonathan Davies fod ar ei orau ddydd Sadwrn os yw'n gorfod wynebu cryfder Manu Tuilagi (llun: David Davies/PA)
Mae canolwr Cymru Jonathan Davies wedi disgrifio Manu Tuilagi fel ‘chwaraewr X-factor Lloegr’, er nad yw’r gŵr gafodd ei eni yn Samoa wedi chwarae dros y crysau gwynion ers 21 mis.

Mae disgwyl i ganolwr Caerlŷr gael ei enwi ymhlith yr eilyddion wrth i’r ddwy wlad baratoi i herio’i gilydd yn Twickenham ddydd Sadwrn, mewn gêm a allai benderfynu pwy sy’n ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Fe allai hynny olygu ei fod yn dod benben â Davies rywbryd yn ystod y gêm, a does dim amheuaeth gan chwaraewr Clermont faint o fygythiad allai Tuilagi fod i Gymru.

“Mae e’n sicr yn chwaraewr X-factor. Fi wedi chwarae gyda fe o’r blaen [i’r Llewod] ac mae e’n eithriadol o gryf a phwerus, ond mae e’n gynnil iawn yn ei gêm hefyd.

“Rwy’n siŵr y byddan nhw [Lloegr] eisiau ei daflu i mewn dydd Sadwrn, ond eu penderfyniad nhw yw hynny.”

‘Cynnil’

Ychwanegodd y byddai’n rhaid i Gymru baratoi’n gorfforol ac yn feddyliol i fynd i’r afael â Tuilagi, wrth iddyn nhw anelu am bedwaredd fuddugoliaeth yng nghartref Lloegr ers i Warren Gatland gael ei benodi’n brif hyfforddwr wyth mlynedd yn ôl.

“Mae e wedi dangos yn y gorffennol ei fod e’n gynnil – ei ddadlwytho a phethau felly,” meddai Jonathan Davies wrth ddisgrifio’i wrthwynebydd.

“Yn amlwg, mae’n anodd iawn ei dynnu i lawr unwaith fydd e wedi dechrau, ond mae e’n creu bylchau ar gyfer pobol eraill oherwydd ei fod yn fygythiol.”

Anghofio Cwpan y Byd

Fe fydd Cymru’n herio’r Eidal ar benwythnos olaf y gystadleuaeth, gan wybod y byddai buddugoliaeth yn ddigon i gipio’r tlws os ydyn nhw eisoes wedi trechu’r Saeson.

Ond am y tro mae sylw Cymru wedi’i hoelio ar Loegr, a hynny ychydig fisoedd yn unig ers eu buddugoliaeth o 28-25 yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn yr hydref.

“Fi’n siŵr bod y bois wedi mwynhau’r fuddugoliaeth yng Nghwpan y Byd, ond fe allai hynny gael ei ddefnyddio fel rhywbeth positif gan Loegr i roi hwb iddyn nhw eu hunain,” meddai Davies, a fethodd y gystadleuaeth ag anaf.

“Mae hynny yn y gorffennol, ac mae gan Loegr hyfforddwyr newydd ac maen nhw wedi newid eu hathroniaeth.

“I ni, canolbwyntio ar ein perfformiad ein hunain a gweithio’n galed sy’n bwysig. Os ydyn ni’n ennill ddydd Sadwrn, mae’n ein rhoi ni mewn sefyllfa gref i adennill y tlws.”