Munster 17–21 Gweilch

Cafodd y Gweilch ganlyniad da wrth iddynt deithio i Gorc i wynebu Munster ar Barc Musgrave yn y Guinness Pro12 brynhawn Sul.

Rheolodd Sam Davies bethau i’r Cymry a chyfranodd y maswr un pwynt ar bymtheg at gyfanswm yr ymwelwyr wrth iddynt ennill o 21 i 17.

Hanner Cyntaf

Munster heb os a ddechreuodd orau a doedd fawr o syndod eu gweld yn mynd ar y blaen, er i’r cais ddod o ddim byd braidd, cic Brendon Leonard yn cael ei tharo i lawr gan Duncan Williams a’r mewnwr cartref yn rhedeg yr holl ffordd o dan y pyst. 7-0 wedi trosiad Ian Keatley.

Daeth y Cymry fwy i’r gêm yn yr ail chwarter ac roeddynt yn gyfartal wedi i Sam Davies groesi am gais, y maswr yn dangos dwylo da i dorri trwy’r amddiffyn yn dilyn sawl cymal effeithiol gan y Gweilch, cyn trosi ei gynnig ei hun.

Roedd maswr yr ymwelwyr ar fai yn fuan wedyn serch hynny, yn colli’r bêl wrth geisio gwrthymosod o’i hanner ei hun. Daeth y bêl i Francis Saili yn y diwedd ac er bod gan y Kiwi ddigon i’w wneud o hyd fe groesodd am gais unigol da.

Methodd Keatley’r trosiad, felly dim ond dau bwynt oedd rhwng y timau ar yr egwyl wedi i Davies lwyddo gyda chic gosb ddau funud o ddiwedd yr hanner.

Ail Hanner

Munster a gafodd gais cyntaf yr ail hanner hefyd wrth i gyn wythwr y Gleision, Robin Copeland, groesi wedi dadlwythod taclus Darren Sweetman.

Roedd y Gweilch yn ôl o fewn sgôr wedi tri phwynt o droed Davies, a chwaraeodd y maswr ei ran eto wrth i’r Cymry fynd ar y blaen am y tro cyntaf hanner ffordd trwy’r ail hanner. Amserodd ei bas yn berffaith i Owen Watkin yn y gornel chwith a hyrddiodd y canolwr ifanc drosodd trwy ddau daclwr.

Ychwanegodd Davies gic gosb hwyr i olygu fod angen cais ar Muntser i’w chipio hi, a bu rhaid i’r tîm cartref fodloni ar bwynt bonws yn unig wrth i’r Gweilch ddal eu gafael.

Nid yw’r canlyniad yn newid llawer yn nhabl y Pro12, mae’r Gweilch yn aros yn seithfed er gwaethaf y fuddugoliaeth.

.

Munster

Ceisiau: Duncan Williams 12’, Francis Saili 28’, Robin Copeland 51’

Trosiad: Ian Keatley 13’

.

Gweilch

Ceisiau: Sam Davies 25’, Owen Watkin 60’

Trosiad: Sam Davies 27’

Ciciau Cosb: Sam Davies 38’, 56’, 78’