Connacht 30–17 Scarlets

Cododd Connacht yn gyfartal ar bwyntiau gyda’r Scarlets ar frig y Guinness Pro12 gyda buddugoliaeth bwynt bonws dros y Cymry ar Faes Chwarae Galway brynhawn Sadwrn.

Dechreuodd Bois y Sosban y dydd ar frig y domen a Connacht yn bedwerydd ond mae’r fuddugoliaeth gyfforddus yn golygu nad oes fawr ddim yn gwahanu’r ddau dîm ar y brig bellach.

Llwyddodd Jack Carty gyda chic gosb gynnar i Connacht cyn i Jake Heenan groesi am ei gyntaf o ddau gais hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf.

Daeth ail y blaenasgellwr bedwar munud cyn yr egwyl ac er i Carty fethu’r ddau drosiad roedd gan y Gwyddelod fantais iach ar yr egwyl, 13-0 y sgôr.

Dechreuodd yr ail hanner yn dda i’r Scarlets wrth i Aled Thomas lwyddo gyda chic gosb cyn trosi cais DTH van Der Merwe, i gyd yn y pum munud cyntaf.

Torwyd y momentwm hwnnw’n fuan wedyn wrth i ddau o bump blaen Bois y Sosban gael eu hanfon i’r gell gosb o fewn dau funud i’w gilydd. Phil Price y prop oedd y cyntaf i dderbyn cerdyn melyn cyn i’r clo, Tom Price, ymuno ag ef ar ochr y cae.

Manteisiodd y tîm cartref yn llawn gyda chic gosb o droed Carty a chais gan Dennis Buckley cyn i drosiad Carty roi deuddeg pwynt rhwng y timau gydag ychydig llai na hanner awr i fynd.

Sicrhaodd Rodney Ah You y fuddugoliaeth a’r pwynt bonws i’r Gwyddelod yn y chwarter olaf a chais cysur yn unig oedd ymdrech hwyr Gareth Owen.

Yn gyfartal ar bwyntiau, dim ond y ffaith i Fois y Sosban ennill un gêm yn fwy na’r Gwyddelod sy’n eu gwahanu erbyn hyn.

.

Connacht

Ceisiau: Jake Heenan 21’, 36’, Dennis Buckley 51’, Rodney Ah You 63’

Trosiadau: Jack Carty 52’, 65’

Ciciau Cosb: Jack Carty 8’, 47’

Cerdyn Melyn: Dave Hefferman 80’

.

Scarlets

Ceisiau: DTH van der Merwe 44’, 73’

Trosiadau: Aled Thomas 45’, 74’

Cic Gosb: Aled Thomas 43’

Cardiau Melyn: Phil Price 46’, Tom Price 48’