Gleision 74–6 Calvisano

Rhoddodd y Gleision gweir go iawn i Calvisano nos Wener wrth i’r Eidalwyr ymweld â Pharc yr Arfau yng ngrŵp 3 Cwpan Her Ewrop.

Fydd y canlyniad ddim yn ddigon i’r Cymry gyrraedd wyth olaf y gystadleuaeth ond cafodd eu cefnogwyr ddigon o adloniant wrth iddynt groesi am ddeuddeg cais i gyd.

Sgoriodd Tom James gais cyntaf y Gleision wedi pum munud cyn i Cory Allen groesi am yr ail dri munud yn ddiweddarach. Cyfunodd y ddau ar gyfer y trydydd wedi chwarter awr, Allen yn creu a James yn croesi.

Sicrhaodd Josh Navidi y pwynt bonws gyda’r pedwerydd cyn i Dan Fish dirio’r pumed cyn yr egwyl yn dilyn cic gelfydd Tavis Knoyle.

Ethan Lewis a sgoriodd gais cyntaf yr ail hanner, cyn i James gwblhau ei hatric. Ychwanegodd Allen ei ail yntau yn fuan wedyn cyn i Alex Cuthbert, Aled Summerhill, Rhys Patchell a Macauley Cook fanteisio ar amddiffyn blinedig Calvisano i sgorio cais yr un yn y chwarter olaf.

Llwyddodd Gareth Anscombe gyda saith trosiad allan o ddeuddeg wrth orffen y gêm gyda phedwar pwynt ar ddeg.

Roedd y Gleision angen gorffen yn ail yn y grŵp os am unrhyw gyfle o gyrraedd yr wyth olaf, ond Montpellier fydd yn dilyn yr Harlequins allan o grŵp 3 wedi i’r Ffrancwyr drechu’r Saeson yn gyfforddus yn eu gêm hwy nos Wener.

.

Gleision

Ceisiau: Tom James 5’, 15’, 51’, Cory Allen 8’, 54’, Josh Navidi 24’, Dan Fish 29’, Ethan Lewis 48’, Alex Cuthbert 63’, Aled Summerhill 73’, Rhys Patchell 75’, Macauley Cook 80’

Trosiadau: Gareth Anscombe 6’, 9’, 16’, 25’, 56’, 64’, 76’

.

Calvisano

Ciciau Cosb: Florin Vlaicu 12’, 60’