Racing 92 64–14 Scarlets

Cafodd y Scarlets gweir go iawn wrth iddynt ymweld â’r Stade Yves-Du-Manoir i wynebu Racing 92 yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop brynhawn Sul.

Roedd Bois y Sosban allan o’r gystadleuaeth yn barod ar ôl colli pedair allan o bedair yng ngrŵp 3 ond aeth pethau o ddrwg i waeth wrth i’r Ffrancwyr sgorio naw cais yn eu herbyn mewn buddugoliaeth swmpus.

Dechreuodd y tîm cartref yn dda gyda chais wedi deuddeg munud ac gwaethygodd pethau i’r Scarlets yn fuan wedyn wrth i Masselino Paulino a DTH van der Merwe gael eu hanfon i’r gell gosb.

Manteisiodd Racing yn llawn gyda chais yr un i Casey Laulala ac Antoine Claassen yn y cyfnod yr oedd eu gwrthwynebwyr i lawr i dri dyn ar ddeg.

Rhediad pwrpasol Steff Evans oedd moment orau’r ymwelwyr yn yr hanner cyntaf ond dwynodd Racing y bêl a sgoriodd Louis Dupichot gyda gwrthymosodiaed gwych o’i linell 22 medr ei hun.

Ychwanegodd Laulala ei ail ef a phumed ei dîm gyda symudiad olaf yr hanner ac roedd y gêm ym mhell o afael y Scarlets.

Cafodd y Cymry gyfnod da ar ddechrau’r ail hanner wrth i DTH van der Merwe a Gareth Davies groesi am gais yr un yn y deg munud cyntaf.

Ond y Ffrancwyr orffennodd orau gan ychwanegu pedwar cais arall yn yr hanner awr olaf. Roedd ail i Imhoff, trydydd i Laulala, un i Johannes Goosen ac un cais cosb, 64-14 y sgôr terfynol.

.

Racing 92

Ceisiau: Juan Imhoff 12’, 59’, Casey Laulala 23’, 39’, 77’, Antoine Claassen 26’, Louis Dupichot 32’, Cais Cosb 56’, Johannes Goosen 69’,

Trosiadau: Dan Carter 14’, 25’, 28’, 34’, 40’, Brice Dulin 56’, 60’, Johannes Goosen 79’

Cic Gosb: Dan Carter 8’

Cerdyn Melyn: Mike Phillips 47’

.

Scarlets

Ceisiau: DTH van der Merwe 41’, Gareth Davies 50’

Trosiadau: Steven Shingler 42’, 51’

Cardiau Melyn: Masselino Paulino 17’, DTH van der Merwe 23’