Mae’r Scarlets wedi cadarnhau heddiw y bydd maswr y Gleision Rhys Patchell yn ymuno â nhw ar ddiwedd y tymor.

Fe gyhoeddodd Patchell ddoe nad oedd am arwyddo cytundeb newydd gyda’r rhanbarth ble dechreuodd ei yrfa broffesiynol.

Ac wrth gadarnhau y bydd yn gwisgo crys coch y Scarlets y tymor nesaf fe gyfaddefodd bod gadael y rhanbarth o Gaerdydd wedi bod yn “benderfyniad anodd”.

Cyfleoedd yn brin

Mae gan y cyn-ddisgybl o Ysgol Glantaf, sydd bellach yn 22 oed, ddau gap dros Gymru ar ôl bod yn rhan o’r garfan deithiodd i Siapan yn 2013.

Ei hoff safle yw maswr, ac mae’n cael ei ystyried gan lawer fel un o’r Cymry ifanc mwyaf addawol o fewn rygbi rhanbarthol.

Ond mae’n aml wedi bod yn chwarae fel cefnwr dros y Gleision, ac fe aeth ei gyfleoedd i chwarae yn y crys rhif 10 hyd yn oed yn brinnach wedi i’r rhanbarth recriwtio Gareth Anscombe.

Mae’r Scarlets wedi bod yn mynd ar ei ôl ers sbel, ac mae’n debygol nawr y bydd e’n cael cyfle i gystadlu â Steven Shingler yn safle’r maswr yn Llanelli.

Eisiau crys Cymru

“Fel bachgen o Gaerdydd mae hi wedi bod yn benderfyniad anodd iawn i’w wneud, ac un dw i wedi bod yn meddwl amdano ers sbel,” meddai Rhys Patchell wrth gadarnhau’r newyddion.

“Fe fyddai’n parhau i roi fy ngorau i’r Gleision wrth i ni geisio adeiladu ar fuddugoliaethau diweddar yn y Pro12 a’r Cwpan Her. Fe fyddai’n gadael y rhanbarth ag atgofion melys ac o fod wedi gwneud ffrindiau oes.”

Ychwanegodd rheolwr cyffredinol y Scarlets Jon Daniels bod gobeithion rhyngwladol Patchell yn ffactor pwysig yn ei benderfyniad.

“Mae e dal yn fachgen ifanc all ddatblygu rhai rhannau o’i gêm yn bellach ond o dan arweiniad [hyfforddwr y Scarlets] Stephen Jones rydyn ni’n gobeithio y gall Rhys ymuno â rhestr hir o faswyr y Scarlets sydd wedi gwisgo crys rhif 10 Cymru.”