Dan Biggar
Mae seren rygbi Cymru a’r Gweilch, Dan Biggar, wedi cael ei enwi fel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru  2015 yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru neithiwr.

Roedd Biggar wedi disgleirio yng Nghwpan Rygbi’r Byd ac ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad dros Gymru ac wedi cael tymor gwych arall gyda’r Gweilch.

Cafodd y wobr ei chyflwyno iddo gan Nigel Owens yn seremoni Gwobrau Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd nos Lun, 7 Rhagfyr.

Ac ar ôl blwyddyn anhygoel i bêl-droed Cymru, cipiodd Tîm Pêl-droed Dynion Hŷn Cymru’r wobr am Dîm y Flwyddyn ar ôl sicrhau lle yn rowndiau terfynol Pencampwriaethau Ewrop UEFA yn Ffrainc yr haf nesaf, a hyfforddwr Cymru Chris Coleman, enillodd wobr Hyfforddwr y Flwyddyn.

Daeth Dan Biggar i’r brig yng ngwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru, Geraint Thomas ddaeth yn ail a Lee Selby yn drydydd.

Cynhaliwyd Gwobrau Chwaraeon Cymru yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd.

Cafodd eraill eu gwobrwyo am lwyddo’n arbennig ym maes chwaraeon yng Nghymru hefyd:

Yr enillwyr oedd:

•           Tîm y Flwyddyn – Tîm Pêl-droed Dynion Hŷn Cymru

•           Gwobr Cyflawniad Oes (Elite) – Syr Gareth Edwards (Rygbi’r Undeb)

•           Gwobr Cyflawniad Oes (Cymunedol) – Dorothy Neyland (Gymnasteg, Abertawe)

•           Gwirfoddolwr y Flwyddyn – Wendy Pressdee (Pêl-rwyd, Abertawe)

•           Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn – Elan Môn Gilford (Aml-gamp, Ynys Môn)

•           Hyfforddwr Ifanc y Flwyddyn – Lowri Hâf Barker (Pêl-rwyd, Sir y Fflint)

•           Chwaraewr Iau y Flwyddyn Carwyn James – Matt Story (Tenis, Caerdydd)

•           Chwaraewraig Iau y Flwyddyn Carwyn James – Hannah Brier (Athletau, Abertawe)

•           Hyfforddwr Pobl Anabl – John Wilson (Bowls ar gyfer pobl sydd â nam ar eu golwg, Abertawe)

•           Arwr Tawel – Jane Roberts a Nerys Ellis (Clwb Nofio Llanrwst, Conwy)

•           Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn – Angeline Tshiyane (Aml-gamp, Casnewydd)

Bydd y seremoni i’w gweld yn llawn ar wasanaeth Botwm Coch y BBC am 4.30pm a 11.20pm ar ddydd Mawrth, 8 Rhagfyr. Bydd y seremoni ar gael i’w gwylio BBC iPlayer am 30 diwrnod.