Fe fydd Alex Cuthbert yn dychwelyd i dîm y Gleision heno wrth iddyn nhw groesawu Connacht i Barc yr Arfau yn y Pro12.

Mae prif hyfforddwr y Gleision Danny Wilson wedi gwneud pum newid i’r tîm gollodd yn erbyn y Gweilch yr wythnos diwethaf wrth i’r tîm sydd ar frig y gynghrair ymweld â Chaerdydd.

Bydd Rhys Patchell yn dechrau fel cefnwr tra bod Ethan Lewis, Jarrod Hoeata a Macauley Cook yn ymuno â’r pac.

“Rydyn ni’n gwybod faint o dasg fydd hi i chwarae’r tîm ar frig y tabl, ond mae’n gêm gartref ac rydyn ni’n dod iddi ar ôl perfformiad da yn y ddarbi,” meddai Wilson.

“Mae elfennau o’n perfformiad yn dechrau gwella a gobeithio gallwn ni gael y canlyniad rydyn ni ar ei hôl. Os allwn ni ennill fe fydd e wir yn rhoi hwb i’n tymor ni.”

Tîm y Gleision: Gethin Jenkins (capt), Ethan Lewis, Taufa’ao Filise, Jarrad Hoeata, Lou Reed, Macauley Cook, Josh Turnbull, Manoa Vosawai; Lloyd Williams, Jarrod Evans, Tom James, Gavin Evans, Rey Lee-Lo, Alex Cuthbert, Rhys Patchell

Eilyddion: Kristian Dacey, Sam Hobbs, Craig Mitchell, James Down, Cam Dolan, Tavis Knoyle, Garyn Smith, Dan Fish